Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 3 Gorffennaf 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:52 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_300000_03_07_2013&t=0&l=cy |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Leighton Andrews Peter Black Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Jenny Rathbone Rhodri Glyn Thomas Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Rhys Iorwerth (Ymchwilydd) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates a Rhodri Glyn Thomas. Roedd Leighton Andrews yn dirprwyo ar ran Ken Skates, a Jocelyn Davies ar ran Rhodri Glyn Thomas.
Diolchodd y Cadeirydd i Ken Skates am ei gyfraniad i’r Pwyllgor a’i longyfarch ar ei benodiad yn Ddirprwy Weinidog.
2 Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon – sesiwn dystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
rhagor o wybodaeth am yr arolwg o hamdden awyr agored yng Nghymru a nodyn ar y prosiect gemau stryd.
3 Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon - sesiwn dystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
y diffiniadau o ddigwyddiadau chwaraeon mawr a ddefnyddiwyd gan yr uned i gategoreiddio digwyddiadau yng Nghymru a chan Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y DU i werthuso effaith gemau Olympaidd 2012 ac yn benodol o ran y canlyniadau ehangach.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig.
5 Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref – ystyried yr adroddiad drafft
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a nodi y byddai’n cael ei ystyried ymhellach yn y cyfarfod nesaf.
6 Blaenraglen waith y Pwyllgor – ystyried yr ymchwiliad nesaf
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ei ymchwiliad nesaf i gydweithrediad llywodraeth leol. Caiff cylch gorchwyl drafft ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.